Polisi Preifatrwydd

Sut ydym ni'n defnyddio Data Personol

Cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn egluro sut mae Cartrefi Conwy (y gymdeithas) yn casglu, cadw, defnyddio ac yn datgelu gwybodaeth am bobl (data personol[1]) ac yn nodi'r camau a gymerir i sicrhau bod gwybodaeth yn ddiogel. Mae'r ddogfen hefyd yn nodi hawliau unigolion o ran y data personol y mae Cartrefi Conwy[2] yn eu cadw amdanynt. Yn y Deyrnas Unedig mae defnyddio a datgelu data personol yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Diogelu Data 1998 ('y Ddeddf'). Ar ran y gymdeithas mae Ysgrifennydd Cwmni Cartrefi Conwy wedi cofrestru â'r Comisiynydd Gwybodaeth fel 'rheolydd data' at ddibenion y Ddeddf hon. Fel y cyfryw, mae'n rhaid iddo/iddi sicrhau bod Cartrefi Conwy yn trin pob darn o ddata personol yn unol â'r Ddeddf. Mae Cartrefi Conwy yn ystyried ei gyfrifoldebau dan y Ddeddf hon o ddifrif ac yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod data personol yn cael ei drin yn briodol er mwyn ennill a chadw ymddiriedaeth a hyder unigolion yn y gymdeithas.

1. Pam Ein Bod Ni'n Trin Data Personol

Mae Cartrefi Conwy yn casglu, cadw, defnyddio ac yn datgelu data personol at ddibenion darparu tai cymdeithasol a gwasanaethau, gan gynnwys:

[1] Diffinnir 'data personol' dan adran 1 Deddf Diogelu Data 1998. Yn ymarferol mae'n cyfeirio at yr wybodaeth a drafodir gan Gartrefi Conwy sy'n ymwneud ag unigolion byw adnabyddadwy. Gall gynnwys bwriadau a barn am unigolion. Gellir cadw'r wybodaeth yn electronig neu ar bapur, a gall gynnwys delweddau TCC a lluniau. I wneud pethau'n haws i ddarllenwyr, mae'r ddogfen hon yn cyfeirio at drafod, defnyddio a chadw data personol - mae Adran 1 y Ddeddf yn defnyddio'r term 'prosesu' ar gyfer disgrifio unrhyw ddefnydd o ddata personol.

[2] Mae'r ddogfen hon wedi'i dylunio i fodloni 'Gofynion Prosesu Teg' Atodlen 1, Rhan 2, Paragraffau 1-4 Deddf Diogelu Data 1998 ac fe ellir ei hystyried fel 'Hysbysiad Prosesu Teg' trosfwaol a chyffredinol ar gyfer Cartrefi Conwy. Efallai y bydd Hysbysiadau Prosesu Teg mwy penodol yn ymddangos mewn mannau eraill e.e. ar ffurflenni, polisiau, troedynnau neu arwyddion TCC.

2. Data Personol Pwy Ydym Ni'n Ei Drin

I'r dibenion a nodwyd uchod yn adran 1, bydd Cartrefi Conwy yn casglu, defnyddio ac yn datgelu (gweler adran 7 isod) data personol amrywiaeth o unigolion, gan gynnwys:

3. Pa Fath o Ddata Personol Ydym Ni'n Ei Drin?

I'r dibenion a nodwyd uchod yn adran 1, bydd Cartrefi Conwy yn casglu, defnyddio ac yn datgelu (gweler adran 7 isod) data personol sy'n cynnwys neu'n ymwneud â'r canlynol:

[1] O dro i dro bydd Cartrefi Conwy yn cynnal Arolygon Boddhad Cwsmeriaid i werthuso ein perfformiad a'n heffeithiolrwydd. Mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu ag unigolion i ofyn am eu barn am y gwasanaeth rydym ni'n ei ddarparu. Rydym ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i wella ein gwasanaethau lle bo modd. Weithiau bydd Cartrefi Conwy yn defnyddio sefydliad arall i gynnal yr arolygon ar ei ran, gyda rheolaethau llym i ddiogelu data personol y rheiny sy'n cymryd rhan.

4. Gan bwy rydym ni'n derbyn data personol?

I'r dibenion a nodwyd uchod yn adran 1, bydd Cartrefi Conwy yn casglu data personol o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys:

5. Sut Ydym ni'n trin data personol?

I'r dibenion a nodwyd uchod yn adran 1, bydd Cartrefi Conwy yn trin data personol yn unol â'r Ddeddf. Yn benodol byddwn yn sicrhau bod data personol yn cael ei drin yn deg ac yn gyfreithlon gyda chyfiawnhad priodol. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddata personol a ddefnyddir gennym neu ar ein rhan yn ddata o'r ansawdd uchaf o ran cywirdeb, perthnasedd a chymesurdeb. Byddwn hefyd yn sicrhau ei fod yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen, ei fod wedi'i ddiogelu, yn cael ei adolygu ac yn cael ei gadw a'i ddinistrio mewn modd diogel. Byddwn hefyd yn parchu hawliau unigolion dan y Ddeddf (gweler adran 8 isod).

6. Sut Ydym ni'n sicrhau bod data personol yn ddiogel?

Mae Cartrefi Conwy yn ystyried diogelwch yr holl ddata personol yn ei feddiant yn fater difrifol iawn. Byddwn yn cydymffurfio â holl rannau perthnasol y Ddeddf sy'n ymwneud â diogelwch. Er mwyn diogelu ein systemau gwybodaeth papur ac electronig byddwn yn sicrhau bod mesurau polisi, hyfforddiant, technegol a gweithdrefnol yn eu lle sy'n atal data rhag mynd ar goll neu gael ei gamddefnyddio. Hefyd, dim ond pan fo rheswm da dros wneud hynny y byddwn yn caniatau i unigolyn weld data personol a gedwir gennym. Mae yna hefyd ganllawiau llym o ran sut y gellir defnyddio'r data personol hwnnw. Mae'r gweithdrefnau hyn yn cael eu rheoli a'u gwella'n barhaus er mwyn sicrhau bod y trefniadau diogelwch yn gyfredol.

7. I bwy rydym ni'n datgelu data personol?

I'r dibenion a nodwyd uchod yn adran 1, bydd Cartrefi Conwy yn datgelu data personol i amrywiaeth o bobl, gan gynnwys i'r rheiny a ddarparodd y data personol (gweler uchod). Gall hyn gynnwys datgelu gwybodaeth i gymdeithasau tai eraill, darparwyr gofal ac iechyd, cwmniau gwasanaeth (fel cyflenwyr nwy, trydan a dŵr), y gwasanaeth tan, yr heddlu ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith, asiantaethau partner, gofalwyr ac asiantaethau gofal sy'n cefnogi defnyddwyr neu ddarpar ddefnyddwyr ein gwasanaethau, ac i gyrff neu unigolion sy'n gweithio ar ein rhan e.e. contractwyr TG neu sefydliadau cynnal arolygon.

Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn datgelu data personol i gyrff ac unigolion er mwyn atal camdriniaeth neu niwed i unigolion.

Bydd datgelu data personol yn cael ei wneud fesul achos a dim ond y data sy'n berthnasol i'r diben a'r amgylchiadau fydd yn cael ei ddatgelu, gyda'r rheolaethau angenrheidiol yn eu lle.

Mae'n bosibl y bydd rhai o'r cyrff a'r unigolion a fydd yn derbyn data personol gennym ni yn gyrff ac yn unigolion o wledydd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd; nid oes gan rai gwledydd gyfreithiau diogelu data mor eang â'r cyfreithiau sydd gennym ni yn y Deyrnas Unedig. Os ydym ni'n trosglwyddo data personol i wledydd o'r fath byddwn yn cymryd y camau priodol i sicrhau bod y data wedi'i ddiogelu'n briodol yn unol â gofynion y Ddeddf.

Bydd Cartrefi Conwy hefyd yn datgelu data personol i gyrff neu unigolion eraill pan ofynnir iddo wneud hynny dan ddeddfwriaeth, rheol gyfreithiol neu orchymyn llys. Gall hyn gynnwys trosglwyddo data personol i'r Asiantaeth Cynnal Plant, y Fenter Atal Twyll Genedlaethol, y Swyddfa Gartref neu i'r llysoedd.

Gall Cartrefi Conwy hefyd ddatgelu data personol yn ôl ei ddisgresiwn ei hun at ddibenion, ac mewn cysylltiad ag unrhyw achosion cyfreithiol neu er mwyn derbyn cyngor cyfreithiol.

8. Pa hawliau sydd gan yr unigolion y mae Cartrefi Conwy n trin eu data personol?

Mae gan unigolion nifer o hawliau dan y Ddeddf:

Hawl i weld yr wybodaeth a gedwir amdanoch

Yr hawl fwyaf cyffredin sy'n cael ei harfer gan unigolion yw'r hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth a gedwir amdanynt gan Gartrefi Conwy. Gellir derbyn manylion ynglŷn â sut i wneud hyn drwy gysylltu ag Ysgrifennydd Cwmni Cartrefi Conwy (gweler adran 11 isod).

Details of the application process, known as 'Subject Access' can be obtained by contacting Cartrefi Conwy's Company Secretary (see section 11 below).

Yr hawl i atal prosesu gwybodaeth bersonol os bydd gwneud hynny'n achosi niwed neu ofid

Dan Adran 10 o'r Ddeddf mae gan unigolion hawl, dan rai amgylchiadau penodol, i ysgrifennu at Gartrefi Conwy i ofyn i'r cwmni beidio â thrin eu data personol mewn modd a fydd yn achosi, neu sy'n debygol o achosi, niwed sylweddol diangen neu ofid sylweddol iddynt hwy eu hunain neu i berson arall.

Mae'n rhaid i geisiadau dan Adran 10:

Dylai pob cais o'r fath gael ei anfon yn ysgrifenedig at Ysgrifennydd y Cwmni (gweler adran 11 isod).

Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau penodol a all olygu y gall Cartrefi Conwy, dan rai amgylchiadau, barhau i drin y data personol fel y bwriadwyd er gwaethaf y gwrthwynebiad.

Yr hawl i atal prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol

Dan Adran 11 o'r Ddeddf, ac yn amodol ar rai eithriadau, mae gan unigolion yr hawl i ofyn yn ysgrifenedig i Gartrefi Conwy stopio, o fewn amser rhesymol, neu i beidio â dechrau, defnyddio eu data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu unrhyw hysbyseb neu ddeunydd marchnata (e.e. drwy'r post, e-bost, dros y ffôn, canfasio o ddrws i ddrws) wedi'i gyfeirio at unigolyn penodol. Dylai pob cais dan Adran 11 gael ei anfon at Ysgrifennydd y Cwmni (gweler adran 11 isod).

Hawliau mewn perthynas â phenderfyniadau awtomataidd

Dan Adran 12 o'r Ddeddf, ac yn amodol ar rai eithriadau, mae gan unigolion hawl i fynnu bod Cartrefi Conwy yn sicrhau na fydd unrhyw benderfyniad a fyddai'n effeithio'n sylweddol arnynt yn cael ei gymryd gan Cartrefi Conwy neu ar ei ran yn defnyddio meddalwedd gwneud penderfyniadau awtomataidd. Mae'n rhaid i'r hawl gael ei harfer yn ysgrifenedig. Os oes elfen ddynol yn ymwneud â'r penderfyniadau yna nid yw'r hawl hon yn berthnasol. Gellir anfon ceisiadau Adran 12 at Ysgrifennydd y Cwmni (gweler adran 11 isod).

Yr hawl i geisio os dioddefir niwed yn sgil rheolyddion data yn torri gofynion y ddeddf

Dan Adran 13 o'r Ddeddf gall unigolion sy'n credu eu bod wedi dioddef niwed a/neu ofid o ganlyniad i dorri'r Ddeddf dderbyn iawndal gan Gartrefi Conwy os nad yw'r gymdeithas yn gallu profi ei bod wedi cymryd rhagofalon rhesymol i fodloni'r gofynion perthnasol. Gellir anfon ceisiadau am iawndal at:

Ysgrifennydd y Cwmni,

Cartrefi Conwy,

Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Cae Eithin, Abergele LL22 8LJ

Yr hawl i weithredu i gywiro, atal, dileu neu ddinistrio data anghywir

Dan Adran 14 o'r Ddeddf gall unigolion dderbyn gorchymyn llys i gywiro, atal, dileu neu ddinistrio data personol anghywir a gedwir gan Gartrefi Comwy. Ni ellir gwneud cais am hyn yn uniongyrchol i Gartrefi Conwy.

Yr hawl i ofyn i'r comisiynydd gwybodaeth asesu prosesau'r rheolydd data

Dan Adran 42 o'r Ddeddf gall unigolion ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth asesu p'un ai ydyw'n credu eu bod wedi'u heffeithio mewn modd niweidiol gan y ffordd y mae Cartrefi Conwy yn/wedi trin eu data personol. Dylid gwneud ceisiadau o'r fath yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth (gweler y manylion isod).

Os oes gan unigolion unrhyw bryder ynghylch y ffordd y mae eu data personol yn cael ei drin gan Gartrefi Conwy neu ansawdd (cywirdeb, perthnasedd, cymesurdeb ac ati) eu data personol fe'u hanogir i gysylltu ag Ysgrifennydd y Cwmni (gweler adran 10 isod).

Y Comisiynydd Gwybodaeth yw'r rheolydd annibynnol sy'n gyfrifol am orfodi'r Ddeddf ac mae'n gallu darparu gwybodaeth ddefnyddiol am ofynion y Ddeddf.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yng Nghaerdydd yn fan cyswllt lleol ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n byw yng Nghymru a sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH

Rhif Ffôn: 029 2067 8400

Ffacs: 029 2067 8399

E-bost: wales@ico.org.uk

neu

Information Commissioner's Office

Wycliffe House, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Rhif Ffôn: 01625 545700 Gwefan: www.ico.gov.uk

9. Am ba mor hir y cedwir data personol?

Mae Cartrefi Conwy yn cadw data personol cyhyd ag y mae angen at y dibenion y cedwir y data ar eu cyfer. Mae gwybodaeth bersonol a gedwir ar y system rheoli tai a chofnodion eraill sy'n cynnwys data personol am weithgareddau Cartrefi Conwy yn cael ei gadw, ei adolygu a'i ddileu yn unol â'r cyfnodau cadw a gytunwyd arnynt. Gall y cyfnodau hyn amrywio yn dibynnu ar anghenion y busnes.

10. Monitro

Mae'n bosibl y bydd Cartrefi Conwy yn monitro, cofnodi ac yn cadw galwadau ffôn, e-bost a mathau eraill o gyfathrebu electronig i a gan y gymdeithas er mwyn cynorthwyo gyda'r dibenion a nodwyd dan adran 1 uchod, ac i atal a chanfod ymddygiad amhriodol.

Nid yw Cartrefi Conwy yn cynnwys 'hysbysiad prosesu teg' ar negeseuon ffôn oherwydd yr anghyfleustra a'r oedi y byddai hynny yn ei achosi.

11. Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw bryder ynghylch y ffyrdd y mae Cartrefi Conwy yn trin data personol, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Cwmni:

Ysgrifennydd y Cwmni, Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Cae Eithin, Abergele, LL22 8LJ

Ffôn: 0300 124 0040

[1] Diffinnir 'data personol' dan adran 1 Deddf Diogelu Data 1998. Yn ymarferol mae'n cyfeirio at yr wybodaeth a drafodir gan Gartrefi Conwy sy'n ymwneud ag unigolion byw adnabyddadwy. Gall gynnwys bwriadau a barn am unigolion. Gellir cadw'r wybodaeth yn electronig neu ar bapur, a gall gynnwys delweddau TCC a lluniau. I wneud pethau'n haws i ddarllenwyr, mae'r ddogfen hon yn cyfeirio at drafod, defnyddio a chadw data personol - mae Adran 1 y Ddeddf yn defnyddio'r term 'prosesu' ar gyfer disgrifio unrhyw ddefnydd o ddata personol.

[2] Mae'r ddogfen hon wedi'i dylunio i fodloni 'Gofynion Prosesu Teg' Atodlen 1, Rhan 2, Paragraffau 1-4 Deddf Diogelu Data 1998 ac fe ellir ei hystyried fel 'Hysbysiad Prosesu Teg' trosfwaol a chyffredinol ar gyfer Cartrefi Conwy. Efallai y bydd Hysbysiadau Prosesu Teg mwy penodol yn ymddangos mewn mannau eraill e.e. ar ffurflenni, polisiau, troedynnau neu arwyddion TCC.

[3] O dro i dro bydd Cartrefi Conwy yn cynnal Arolygon Boddhad Cwsmeriaid i werthuso ein perfformiad a'n heffeithiolrwydd. Mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu ag unigolion i ofyn am eu barn am y gwasanaeth rydym ni'n ei ddarparu. Rydym ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i wella ein gwasanaethau lle bo modd. Weithiau bydd Cartrefi Conwy yn defnyddio sefydliad arall i gynnal yr arolygon ar ei ran, gyda rheolaethau llym i ddiogelu data personol y rheiny sy'n cymryd rhan.

Cwcis

Mae cwcis yn ffeiliau data bychan a gedwir ar gyfrifiadur defnyddiwr neu ff ôn symudol gan wefan, a'u cadw ar yriant caled dyfais y defnyddiwr. Maent yn ddefnyddiol oherwydd maent yn helpu i wefan weithio, ac yn aml yn caniatâu perchnogion y wefan i gyfeirio cynnwys penodol at y defnyddiwr.

Ar ein gwefan, gall defnyddwyr reoli a/neu ddileu cwcis fel maent yn ei ddymuno, fodd bynnag, mae'r wefan angen rhai cwcis i weithio'n gywir, ac felly, byddai peidio â'u caniatâu efallai yn atal y perfformiad a gosodiad y safle. Ceir gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud hyn yn yr adran 'Sut i reoli cwcis'.

1 Ynglŷn â chwcis

Mae cwci yn nifer fach o ddata (sy'n aml yn cynnwys dynodwr unigryw) a anfonir at gyfrifiadur defnyddiwr neu ffân symudol o wefan, ac sydd yna'n cael ei storio ar yriant caled y ddyfais. Gall pob gwefan anfon ei gwcis ei hun at eich porwr os yw dewision eich porwr yn caniatâu hynny. Mae llawer o wefannau yn gwneud hyn pryd bynnag y bydd defnyddiwr yn ymweld â'u gwefan er mwyn rhoi gwybod am draffig gwefan a pha mor aml y bydd yr unigolyn yn ymweld â'r wefan. Bydd eich porwr ond yn caniatu gwefan i gael mynediad at gwcis sydd wedi'u hanfon atoch eisoes, nid y cwcis yr anfonwyd atoch gan wefannau eraill.

2. Sut mae Cartrefi Conwy yn defnyddio cwcis

Caiff cwcis ar wefan Cartrefi Conwy eu defnyddio mewn nifer o ffyrdd. Gellir gweld rhestr lawn o'r holl gwcis a ddefnyddir ar ein gwefan yn y Rhestr o gwcis a ddefnyddir ar ein safle.

i) Analytics

Mae Cartrefi Conwy yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio ein safle. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein gwefan yn diwallu anghenion defnyddwyr a gweld sut y gallwn wella.

Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am ba dudalennau mae pobl yn ymweld â nhw, pa mor hir maent ar y safle, sut wnaethant gyrraedd y safle a beth maent yn clicio arno. Mae'r wybodaeth a gyflenwir gan y cwcis yn helpu Cartrefi Conwy i ddadansoddi proffil ymwelwyr a'u darparu gyda phrofiad gwell.

Nid yw Analytics yn casglu nac yn storio gwybodaeth bersonol defnyddwyr (er enghraifft, enwau neu gyfeiriadau), felly ni ellir defnyddio'r wybodaeth hon i adnabod unigolion.

ii) Storio eich gosodiadau defnyddio a hygyrchedd

Mae ein gwefan yn darparu gosodiadau sy'n eich caniatâu i newid maint y testun neu edrych ar opsiynau lliw gwahanol.

Os ydych yn dewis y gosodiadau hyn, rydym yn eu cadw mewn cwci, fel eu bod yn gweithio ar bob tudalen yr edrychwch arni.

Cwcis trydydd parti

Nid yw cwcis trydydd parti yn cael eu gosod yn uniongyrchol gan Gartrefi Conwy, ond gan wasanaeth trydydd parti neu ddarparwyr ymarferoldeb.

Mae Cartrefi Conwy yn defnyddio Google Analytics sy'n gosod cwcis ar wefan Cartrefi Conwy er mwyn cyflawni'r gwasanaethau maent yn eu darparu (er enghraifft, dadansoddi'r we).

Mae Cartrefi Conwy hefyd yn defnyddio Issuu ar gyfer y newyddlen Gyda'n gilydd, ac maent yn casglu cwcis i gyflawni'r gwasanaethau maent yn eu darparu, er enghraifft, ystadegau cyhoeddi.

Nid yw Cartrefi Conwy yn rheoli sut caiff y cwcis hyn eu dosbarthu. Am fwy o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddir gan y cyflenwyr hyn, gan gynnwys sut i eithrio, gweler eu polisïau preifatrwydd unigol isod.

Google Analytics storio'r wybodaeth a gesglir gan y cwci ar borwyr yn yr Unol Daleithiau. Gall Google drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon hefyd os yw hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd partïon o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Sut i wrthod neu ddileu'r cwci hwnhttp://www.google.com/intl/en/privacypolicy.html

Gall Issuu, wrth gael mynediad i gylchlythyr Gyda'n Gilydd ddefnyddio cwcis neu wrthrychau Fflach i gyfrif y nifer o gyfrifiaduron unigryw sy'n cael mynediad at eu gwefan. Gallwch osod eich porwr i wrthod y cwcis hyn gan Wasanaeth Issuu os dymunwch. Pan fyddwch yn cael mynediad at Issuu, gallant gofnodi gwybodaeth benodol yn awtomatig o'ch system, drwy ddefnyddio gwahanol fathau o dechnoleg tracio. Gall y wybodaeth hon 'agesglir yn awtomatig' gynnwys Cyfeiriad IP, dyfais unigryw neu fanylion adnabod defnyddiwr, fersiwn o'r feddalwedd a osodir, math o system, y cynnwys a'r tudalennau rydych yn cael mynediad atynt ar Wasanaeth Issuu, a'r dyddiadau ac amser rydych yn ymweld â'r Gwasanaeth Issuu. Sut i wrthod neu ddileu'r cwcis hynhttp://issuu.com/about/privacy